Canolfan Iaith Y Cwm

Castell Nedd Port Talbot

Y Cwm

Trosolwg o Ganolfan Iaith Y Cwm (Canolfan Iaith CNPT)

Sefydlwyd Canolfan Iaith Y Cwm yng Ngwanwyn 2023. Mae’r ganolfan yn cynnig cyrsiau trochi a gloywi i ddisgyblion 7-11 oed sydd wedi symud o addysg cyfwng Saesneg neu sydd eisoes yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg ac yn dymuno cryfhau eu sgiliau Cymraeg

Prif Nod: Prif nod y ganolfan yw darparu profiad dysgu estynedig a gofalgar er mwyn i ddisgyblion ymgolli yn y Gymraeg, meithrin hyder a hyfedredd iaith mewn amgylchedd cynhwysol a chefnogol.

Cyrsiau a Gynhigir: Mae’r ganolfan yn cynnig dau gwrs craidd: Cwrs Newydd-ddyfodiaid, 10 wythnos, gyda phedair sesiwn yr wythnos a diwrnod yn ôl yn yr ysgol frodorol, a Chwrs Gloywi, 10 wythnos, gyda dau ddiwrnod yr wythnos yn y ganolfan.

Manylion Allweddol: Mae’r myfyrwyr sy’n mynychu’r ganolfan yn dod o ysgolion o fewn ardal Castell-nedd Port Talbot ac yn cynrychioli ystod eang o gefndiroedd. Mae’r ganolfan yn estyn croeso hefyd i ddisgyblion o Bowys a Sir Gaerfyrddin drwy drefniant.

Arweinyddiaeth y Cyrsiau: Mae’r ddau gwrs yn cael eu harwain gan dîm profiadol ac arbenigol, gyda cymarebau staff-i-ddisgybl isel, i sicrhau profiadau dysgu cyfoethog.

Meysydd Canolbwyntio: Mae’r cyrsiau’n pwysleisio sgiliau lleferydd yn ogystal a darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg, gan helpu myfyrwyr i ddatblygu’n academaidd, yn ieithyddol ac yn gymdeithasol. Mae’r dull hwn yn cael ei ddylunio i feithrin teimlad o berthyn a’u paratoi ar gyfer llwyddiant yn yr ysgol ac y tu hwnt.

Persbectif y Pennaeth: Mae llawer o ddisgyblion YGG Cwmnedd wedi mynychu’r Ganolfan ers iddo ddechrau ac rydym wedi sylwi ar yr effaith bositif y mae’r Ganolfan wedi’i chael ar ein disgyblion. Maen nhw’n dychwelyd gyda mwy o hyder,  yn y Gymraeg ac yn eu hunain, ac maen nhw’n llawer mwy tebygol o ddefnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Mae eu profiad yn y Ganolfan yn cynyddu eu sgiliau iaith Gymraeg a’u hunan-barch, gan eu paratoi ar gyfer llwyddiant yn yr ysgol ac y tu hwnt. Rydym yn argymell y cyfle hwn yn fawr i rieni sy’n chwilio am gefnogaeth i ddatblygiad eu plentyn.”

Overview of Y Cwm Language Centre (CNPT Language Centre)
Y Cwm Language Centre was established in Spring 2023. The centre offers immersion and language enhancement courses for pupils aged 7-11 who have either transitioned from English-medium education or who are already receiving Welsh-medium education and wish to strengthen their Welsh language skills.

Main Aim:

The main aim of the centre is to provide an extended and nurturing learning experience for pupils to immerse themselves in the Welsh language, building confidence and language proficiency in an inclusive and supportive environment.

Courses Offered:

The centre offers two core courses: the Newcomer Course, a 10-week course with four sessions per week and one day back in the original school, and the Enhancement Course, a 10-week course with two days per week at the centre.

Key Details:
The students attending the centre come from schools within the Neath Port Talbot area and represent a wide range of backgrounds. The centre also welcomes pupils from Powys and Carmarthenshire through arrangement.

Course Leadership:

Both courses are led by an experienced and specialist team, with low staff-to-pupil ratios, to ensure rich learning experiences.

Focus Areas:
The courses emphasize speaking skills as well as reading and writing in Welsh, helping students to develop academically, linguistically, and socially. This approach is designed to foster a sense of confidence and belonging and prepare them for success in school and beyond.

Impact – A Headteacher’s Perspective

Many pupils from YGG Cwmnedd have attended the Centre since it began, and we have noticed the positive impact the Centre has had on our pupils. They return with increased confidence, both in Welsh and personally, and are much more likely to use Welsh in social situations. Their experience at the Centre enhances their Welsh language skills and self-esteem, preparing them for success in school and beyond. We highly recommend this opportunity to parents seeking support for their child’s development.

Rhianydd Williams
Athrawes a Chydlynydd y Ganolfan Iaith / Teacher and Language Centre Coordinator
Canolfan Iaith Y Cwm Language Centre
NPTCBC