Cwricwlwm / Curriculum YGG Cwmnedd

Cwricwlwm newydd i Gymru

Dyma gyfnod cyffrous i bobl ifanc Cymru. Mae Cwricwlwm newydd i Gymru ar y gweill fydd yn ennyn brwdfrydedd dysgwyr o 3 i 16, gan roi iddynt y sylfaen sydd ei angen i lwyddo mewn byd sy’n newid.

Cwricwlwm Ysgol Gynradd Gymraeg Cwmnedd

Mae pedwar diben wrth wraidd cwricwlwm Ysgol Gynradd Gymraeg Cwmnedd; sy’n rhoi’r cyfle i bob plentyn a pherson ifanc ddatblygu i fod:

  • yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes;
  • yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith;
  • yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd;
  • yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Ein nod yw cynnig addysg a gofal o’r safon uchaf mewn awyrgylch hapus, caredig, gweithgar a diogel fel bod pob plentyn, beth bynnag fo’i allu, yn cyrraedd ei lawn botensial. Rhoddir pwyslais ar ddysgu medrau sylfaenol llythrennedd, rhifedd a TGCh a phwysleisir pwysigrwydd eu gwneud yn berthnasol ac yn ystyrlon i’r plentyn.

Mae’n bwysig gwneud y plentyn yn ymwybodol o’i amgylchfyd, ei gymuned, ei wlad a’i fyd.

Trwy ddefnyddio dulliau dysgu sydd wedi selio ar themau, mae strwythur ein cwricwlwm yn cynnwys chwe Maes Dysgu a Phrofiad.  Mae pob un o’r Meysydd Dysgu a Phrofiad yn cyfrannu mewn ffordd bendant a phenodol at ddatblygu pedwar diben y cwricwlwm. Gyda’i gilydd, maent yn diffinio ehagder ein cwricwlwm.  Mae’r profiadau addysgiadol i ni’n cynnig yn rhan annatod o’n cwricwlwm, sy’n ehangu gorwelion ein plant, yn symbylu eu dychymyg ac yn hybu mwynhad wrth ddysgu.

Y chwe maes dysgu a phrofiad yw:

  • Iaith, llythrennedd a chyfathrebu:-

Mae ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu yn ymwneud â meithrin gwybodaeth, sgiliau a rhinweddau mewn llafaredd, darllen, ysgrifennu a llenyddiaeth o fewn ac ar draws ieithoedd. Maent hefyd yn meithrin dealltwriaeth a hunaniaeth ddiwylliannol dysgwyr, eu hymdeimlad o hunan, a’u lle a’u llais mewn cymdeithas a all gyfrannu’n sylweddol at economi a bywyd diwylliannol ffyniannus i Gymru.

Mae ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu yn cyfrannu at ddatblygu dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n gyfathrebwyr effeithiol yn Gymraeg, Saesneg, ieithoedd eraill a thrwy gyfryngau digidol. Bydd cynnig/creu cyd-destunau ystyrlon yn cymell dysgwyr i feithrin a defnyddio sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth, i ddatblygu agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu iaith ac yn y pen draw, yn rhoi cymhelliant annatod iddynt ddysgu a defnyddio ieithoedd.

Mae dysgu ieithoedd yn cyflwyno safbwyntiau gwahanol. Mae’r hyder i ddefnyddio ieithoedd yn galluogi dysgwyr i addasu’n fedrus i wahanol rolau a chyd-destunau, meddwl yn greadigol, datrys problemau a chymryd risgiau, gan ddod yn gyfranwyr mentrus, creadigol, yn unigol ac ar y cyd.

Mae ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu yn cyfrannu at ddatblygu dinasyddion egwyddorol, gwybodus. Mae dysgwyr yn datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i chwarae rhan hyderus a sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed yn effeithiol. Byddant yn dysgu sut i ymgysylltu’n feirniadol ag ieithoedd a llenyddiaeth mewn amrywiaeth o gyfryngau. Mae ieithoedd a llenyddiaeth yn datblygu ymdeimlad dysgwyr o hunaniaeth, gan eu helpu i ddeall eu diwylliant a’u cymuned a chreu ymdeimlad o berthyn. Gall meithrin sgiliau mewn ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu helpu dysgwyr i gadw eu hunain ac eraill yn ddiogel yn y byd go iawn a’r byd rhithwir. Gall unigolion iach, hyderus gyfleu eu teimladau, dehongli teimladau pobl eraill a datblygu cydberthnasau cadarnhaol.

  • Mathemateg a rhifedd

Mae MDPh Mathemateg a Rhifedd yn hyrwyddo Dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes drwy wneud y canlynol:

  • Datblygu agwedd gadarnhaol tuag at y pwnc.
  • Sefydlu diddordeb gydol oes mewn mathemateg.
  • Annog dysgwyr i fod yn annibynnol, yn chwilfrydig, yn agored eu meddwl, yn barod i dderbyn camgymeriadau a dysgu ohonynt mewn ffordd bwrpasol, fathemategol.
  • Datblygu metawybyddiaeth er mwyn i ddysgwyr wybod pa gamau i’w cymryd er mwyn gwella perfformiad.

Mae MDPh Mathemateg a Rhifedd yn hyrwyddo Cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith drwy wneud y canlynol:

  • Annog dysgwyr i fod yn greadigol drwy gymryd risgiau wrth ystyried ffyrdd gwahanol o fynd i’r afael â phroblemau mathemategol a rhifyddol.
  • Datblygu gallu dysgwyr i ddadansoddi sefyllfaoedd mathemategol a llunio dadleuon rhesymegol mewn ymateb i hynny

Mae MDPh Mathemateg a Rhifedd yn hyrwyddo Dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd drwy wneud y canlynol:

  • Creu cyfleoedd i gael trafodaethau sy’n seiliedig ar dystiolaeth a gwneud penderfyniadau gwybodus
  • Ei gwneud yn bosibl dadansoddi data yn feirniadol er mwyn ffurfio barn wybodus ar faterion cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd ac amgylcheddol.
  • Ymsefydlu dealltwriaeth dysgwyr o gyllid personol, lleol, cenedlaethol a rhyngwladol

Mae MDPh Mathemateg a Rhifedd yn hyrwyddo Unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas drwy wneud y canlynol:

  • Annog dysgwyr i ddefnyddio eu sgiliau rhifedd ar draws y cwricwlwm i wneud dewisiadau effeithiol er mwyn sicrhau iechyd a lles ar hyd eu hoes

Sicrhau eu bod yn meddu ar y wybodaeth a’r sgiliau i reoli cyllid personol ac i gyllidebu nawr ac yn y dyfodol; gan ddehongli gwybodaeth a data er mwyn asesu risg.

  • Gwyddoniaeth a thechnoleg (yn cynnwys cyfrifiadureg)

Drwy ddeall ‘yr hyn sy’n bwysig’ am wyddoniaeth a thechnoleg, bydd dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth gadarn o’r byd ac yn dod yn hyderus, yn alluog ac yn greadigol.

Mae gwyddoniaeth a thechnoleg yn ddynamig. Mae dysgwyr uchelgeisiol, galluog yn deall bod gwybodaeth bob amser yn agored i gael ei herio gan dystiolaeth a thechnoleg newydd a bod yn rhaid iddi adlewyrchu newidiadau mewn dealltwriaeth wyddonol a thechnolegol.

Mae gwyddoniaeth a thechnoleg yn defnyddio dulliau rhagfynegi, profi a chwestiynu. Bydd dysgwyr yn deall, os nad yw arsylwadau, prototeipiau na chanlyniadau arbrofion y gellir eu hailadrodd yn cefnogi syniad, fod yn rhaid iddynt gael eu gwrthod neu eu haddasu a’u profi eto. Mae dysgwyr sy’n gyfranwyr mentrus, creadigol yn croesawu heriau o’r fath. Maent yn cymryd risgiau, yn arloesi ac yn gwerthuso, ac yn dysgu creu atebion. Maent yn wydn ac yn benderfynol.

Mae dysgwyr sy’n gwybod llawer am wyddoniaeth a thechnoleg yn dod yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n gallu defnyddio a gwerthuso tystiolaeth i ddod i gasgliadau. Mae dadlau’n rhesymegol, yn foesol, yn gyson ac yn adeiladol yn eu helpu i werthuso tystiolaeth.

Mae dysgwyr a fydd yn dod yn unigolion iach, hyderus yn gwybod sut i ddod o hyd i wybodaeth am iechyd a lles corfforol a meddyliol. Gallant ddefnyddio’r hyn y maent yn ei wybod am effaith maeth ac ymarfer corff ar eu cyrff. Mae eu gwybodaeth am wyddoniaeth a thechnoleg, a’u dealltwriaeth ohonynt, yn eu helpu i fyw bywydau annibynnol a difyr a chadw eu hunain ac eraill yn ddiogel.

  • Celfyddydau mynegiannol

Drwy’r Celfyddydau Mynegiannol, gall ysgolion ac athrawon annog plant a phobl ifanc i ddatblygu sut mae nhw’n gwerthfawrogi gwaith creadigol. Gallant hefyd annog datblygiad eu talent creadigol a’u sgiliau artistig a pherfformio. Mae’r Celfyddydau Mynegiannol yn rhoi cyfle i archwilio’r meddwl, mireinio a mynegi syniadau a defnyddio’r meddwl, y dychymyg a’r synhwyrau’n greadigol. Maent hefyd yn hyrwyddo ymchwilio i faterion sy’n ymwneud â hunaniaeth bersonol a diwylliannol. Er mwyn ymgysylltu â’r Celfyddydau Mynegiannol, mae angen ymroddiad, dyfalbarhad a manwl gywirdeb, galluoedd sy’n fuddiol ar gyfer dysgu drwyddi draw.

Mae’r Celfyddydau Mynegiannol yn ysbrydoli ac yn cymell gan eu bod yn cysylltu plant a phobl ifanc â phrosesau creadigol, perfformiadau a chynnyrch pobl eraill ac yn ysgogi eu dulliau arbrofi a’u creadigrwydd eu hunain. Maent yn cynnig llawer o gyfleoedd i gael profiad, megis ymweliadau â theatrau ac orielau, a chyfleoedd i ddod ag arbenigedd artistiaid a cherddorion, er enghraifft, i mewn i’r ystafell ddosbarth. Mae llwyddo i ymwneud â’r Celfyddydau Mynegiannol hefyd yn darparu sail ar gyfer cyfranogi gydol oes ac, yn y pen draw, gall gyfrannu at fywyd diwylliannol ac economi lewyrchus i Gymru.

Mae’r Celfyddydau Mynegiannol yn datblygu dysgwyr uchelgeisiol, galluog ac yn eu hannog i ymchwilio i feysydd newydd ac ymestynnol o brofiad ac i ymdrechu i wella eu perfformiad. Drwy ddatblygu eu creadigrwydd mewn amrywiaeth o ffurfiau mynegiant; cynnig cyd-destunau cyfoethog a heriau lle y gallant gydweithio, a sicrhau eu bod yn dysgu drwy arfarnu eu gwaith, mae dysgwyr yn dod yn gyfranwyr mentrus, creadigol.  Mae dysgwyr yn dod yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus drwy ddeall eu hunaniaeth ddiwylliannol eu hunain yn ogystal â hunaniaeth ddiwylliannol cymdeithasau mewn lleoedd a chyfnodau eraill, a thrwy ymchwilio i faterion cymhleth ac anodd. Mae dysgwyr yn dod yn unigolion iach, hyderus gan fod y Celfyddydau Mynegiannol yn eu helpu i ddatblygu gwydnwch ac i deimlo’n fwy hyderus wrth iddynt gael mwynhad a boddhad personol o fynegiant creadigol; gan gyfrannu’n uniongyrchol at gyfoethogi ansawdd eu bywyd.

  • Iechyd a lles

Mae iechyd a lles yn ymwneud ag agweddau corfforol, seicolegol, emosiynol a chymdeithasol ar ein bywydau.

Mae Iechyd a Lles yn allweddol i’n galluogi ni i ddod yn ddysgwyr llwyddiannus/ yn allweddol er mwyn i ni allu dysgu’n llwyddiannus. Bydd dysgwyr yn dod i wybod a deall sut mae eu cyd-destunau cymdeithasol, diwylliannol a ffisegol, eu meddwl a’u cyflwr corfforol yn effeithio ar eu hiechyd, eu lles a’u parodrwydd i ddysgu drwy gydol eu hoes. Byddant yn ymgysylltu’n feirniadol ag amrywiaeth o wybodaeth i’w helpu i wneud penderfyniadau a datblygu eu gwerthoedd a’u hunaniaethau.  Mae datblygu sgiliau cymdeithasol a sgiliau gweithio mewn tîm yn eu helpu i ddod yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog ac yn eu paratoi ar gyfer y gweithle.

Bydd dysgwyr yn cael y cyfle i ymgysylltu’n greadigol â syniadau heriol sy’n ymwneud ag emosiynau a pherthnasau. Byddant yn datblygu’r sgiliau i siarad am y rhain a dod yn gyfranwyr mentrus, creadigol. Bydd gweithgarwch corfforol a gweithgarwch arall yn galluogi dysgwyr i chwarae rolau amrywiol mewn timau.

Byddant yn dysgu sut i wneud dewisiadau cadarnhaol a sut mae’r rhain yn effeithio ar eu hiechyd a’u lles eu hunain ac ar iechyd a lles eraill. Byddant yn dysgu i ryngweithio â gwahanol gyd-destunau cymdeithasol, diwylliannol a ffisegol. Byddant yn dysgu sut i ymgysylltu â’r rhain mewn ffordd gyfrifol, gan werthfawrogi pwysigrwydd cyfrannu’n gadarnhaol a pharchu eraill. Byddant yn ystyried y materion cymdeithasol ac egwyddorol sy’n effeithio ar iechyd a lles eraill, gan ddod yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus.

Bydd dysgwyr yn dysgu beth sy’n dylanwadu ar eu hiechyd a’u lles, gan gynnwys bwyta’n iach, gweithgarwch corfforol a chamddefnyddio sylweddau, a sut i wneud y penderfyniadau cywir.  Byddant yn datblygu’r sgiliau a’r rhinweddau sy’n eu galluogi i ddod yn unigolion iach, hyderus. Byddant yn dysgu pwysigrwydd gwydnwch, hunanddisgyblaeth, ceisio cymorth a datblygu perthnasau cadarnhaol.

  • Dyniaethau (gan gynnwys Addysg Grefyddol)

Mae Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau yn astudio profiad pobl yn y gorffennol a’r presennol yng Nghymru, yn y Deyrnas Unedig ac yn y byd ehangach. Mae’n cynnwys ffactorau a chysyniadau hanesyddol, daearyddol, crefyddol ac anghrefyddol, gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol.

Drwy ystyried y datganiadau ‘Yr Hyn sy’n Bwysig’ am y Dyniaethau, bydd dysgwyr yn astudio pobl, lle, amser a chredoau crefyddol ac anghrefyddol/safbwyntiau byd-eang. Byddant yn dysgu am Gymru, Prydain a’r byd ehangach, yn y gorffennol a’r presennol, er mwyn meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth gadarn o gysyniadau hanesyddol, daearyddol, gwleidyddol, economaidd, crefyddol, anghrefyddol a chymdeithasol.
Byddant yn dilyn prosesau ymholi, yn dysgu sut i werthuso’r dystiolaeth a ganfyddir ganddynt mewn ffordd feirniadol a sut i gymhwyso a chyfleu eu gwybodaeth yn effeithiol, a bydd hyn yn ei dro yn cyfrannu at feithrin eu gallu a’u huchelgais.

Bydd dysgwyr yn datblygu amrywiaeth o sgiliau a rhinweddau er mwyn dod yn gyfranwyr mentrus, creadigol a dinasyddion cyfrifol Byddant yn ymgysylltu’n feirniadol â materion lleol, cenedlaethol a byd-eang ac yn defnyddio eu gwybodaeth er mwyn creu cysylltiadau rhwng heriau a chyfleoedd yn y gorffennol a’r presennol. Byddant yn dychmygu dyfodol posibl a thrwy hyn yn cyfrannu mewn ffordd gadarnhaol at fywydau pobl yn eu cymuned leol, yng Nghymru, yn y Deyrnas Unedig ac yn y byd ehangach. .

Bydd dysgwyr yn deall eu hawliau, gwerthoedd, moeseg, credoau crefyddol ac anghrefyddol / safbwyntiau byd-eang ac athroniaeth eu hunain ac eraill. Drwy ddeall, parchu a herio gwahanol gredoau crefyddol ac anghrefyddol/safbwyntiau byd-eang a sut i arfer eu hawliau a’u cyfrifoldebau democrataidd, bydd dysgwyr yn dod yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus o Gymru a’r byd ehangach. Byddant yn ystyried, yn archwilio ac yn gwneud dewisiadau gwybodus ynghylch cynaliadwyedd ac effaith eu gweithredoedd eu hunain ac eraill yng Nghymru, yn y Deyrnas Unedig ac yn y byd ehangach.

Drwy ddatblygu eu safbwyntiau personol ar faterion sy’n ymwneud ag amrywiaeth barn grefyddol ac anghrefyddol byd-eang, heriau egwyddorol a chynhwysiant cymdeithasol, byddant yn dod yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd boddhaus fel aelodau gwerthfawr yn y gymdeithas yng Nghymru a’r byd ehangach. Bydd archwilio’r byd naturiol, yn lleol, ledled Cymru ac yn y byd ehangach, yn eu helpu i ddatblygu eu llesiant ac ymdeimlad o le.

A new curriculum for Wales

This is an exciting time for the young people of Wales. A new Curriculum for Wales is coming that will enthuse learners from 3 to 16, giving them the foundations they need to succeed in a changing world.

 

 

Ysgol Gynradd Gymraeg Cwmnedd’s Curriculum

There are four purposes at the heart of the curriculum at Ysgol Gynradd Gymraeg  Cwmnedd, that support the children to be:-

  • ambitious, capable learners ready to learn throughout their lives;
  • enterprising, creative contributors, ready to play a full part in life and work;
  • ethical, informed citizens of Wales and the world;
  • healthy, confident individuals, ready to lead fulfilling lives as valued members of society.

 

Our aim is to provide the highest quality care and education in a happy, caring, active and safe environment to enable all children, whatever their ability, to achieve their potential. Emphasis is placed on learning the basic skills of literacy and numeracy and the importance of making them relevant and meaningful to the child. It is important to make the children aware of their environment, their community, their country and the world.

 

By using a teaching and learning method which is based on themes, the structure of our curriculum contains six Areas of Learning and Experience.  Each one of these Areas of Learning and Experience make distinct and strong contributions to developing the four purposes of the curriculum. Together, they define the breadth of the curriculum.   The wealth of  educational experiences form an integral part of the curriculum, to broaden the children’s horizans, stimulate their imagination and promote enjoyment in learning.

The six Areas of Learning and Experience are:-

  • Expressive arts;

Through the Expressive Arts we can encourage children and young people to develop their creative appreciation and talent and their artistic and performance skills. The Expressive Arts provide opportunities to explore thinking, refine, and communicate ideas, engaging thinking, imagination and senses creatively. They also promote exploration of issues of personal and cultural identity. Engagement with the expressive arts requires application, perseverance and close attention to detail, capacities that have benefits across learning more widely.

 

The expressive arts provide inspiration and motivation as they bring children and young people into contact with the creative processes, performances and products of others and stimulate their own experimentation and creativity. They provide many opportunities for experiences such as visits to theatres and galleries and for bringing the specialist expertise of, for example, artists and musicians into the classroom. Achievement in the expressive arts also provides a basis for lifelong participation and can ultimately contribute to a thriving economy and cultural life for Wales.

 

The Expressive Arts support ambitious, capable learners encouraging them to explore new and challenging areas of experience and to strive to improve their performance. By developing their creativity in a range of forms of expression; providing rich contexts and challenges within which they can work collaboratively, learning from critical appraisal of their work, learners become enterprising, creative contributors.  Learners become ethical, informed citizens by understanding their own cultural identity and those of societies in other places and at other times, and to explore complex and difficult issues. Learners become healthy, confident individuals as the Expressive Arts help them to develop resilience and feel more confident as they gain enjoyment and personal satisfaction from creative expression; contributing directly to enriching the quality of their lives.

 

  • Health and well-being;

Health and well-being is about the physical, psychological, emotional and social aspects of our lives.

Health and Well-being is the key enabler of successful learning. Learners will gain knowledge and understanding about how their social, cultural and physical contexts, mind and physical state affect their health, well-being and readiness to learn throughout their lives. They will engage critically with a range of information to support their decision making and their developing values and identities.  Developing social and team working skills helps them to become ambitious, capable learners and prepares them for the workplace.

 

Learners will have opportunities to engage creatively with challenging ideas relating to emotions and relationships. They will develop the skills to talk about these and become enterprising, creative contributors. Physical and other activity will provide learners with contexts for playing a range of roles in teams.

 

They will learn how to make positive choices and how these affect their own and others’ health and well-being. They will learn to interact with different social, cultural and physical contexts. They will learn how to engage with these responsibly, appreciating the importance of contributing positively and respecting others. They will consider the social and ethical issues that impact on the health and well-being of others, becoming ethical, informed citizens.

 

Learners will learn what influences their health and well-being, including healthy eating, physical activity and misuse of substances, and how to make the right decisions.  They will develop the skills and dispositions that enable them to become healthy, confident individuals. They will learn the importance of resilience, self-regulation, seeking support and developing positive relationships.

 

  • Humanities (including RE which should remain compulsory to age 16);

Humanities is the study of the human experience in the past and present in Wales, in the United Kingdom and in the wider world. It includes historical, geographical, religious and non-religious, political, economic and societal factors and concepts.

 

Through exploring ‘what matters’ about the humanities, learners will study people, place, time and religious and non-religious beliefs/world views. They will learn about Wales, Britain and the wider world, in the past and present, to build a solid base of knowledge and understanding of historical, geographical, political, economic, religious, non-religious and societal concepts. They will follow processes of enquiry, critically evaluate the evidence that they find, apply and communicate their knowledge effectively and thereby become ambitious, capable learners.

 

Learners will develop a range of skills and dispositions to become enterprising, creative contributors and responsible citizens. They will engage critically with local, national and global issues and use their knowledge to make links between challenges and opportunities in the past and present, and imagine possible futures, to contribute positively to improving the lives of people in their local community, in Wales, in the United Kingdom, and in the wider world.

 

Learners will understand their own and others’ rights, values, ethics, religious and non-religious beliefs/ world views and philosophy. Through understanding, respecting and challenging different religious and non-religious beliefs/ world views and how to exercise their democratic rights and responsibilities, learners will become ethical, informed citizens of Wales and the wider world. They will consider, explore and make informed choices about sustainability and the impact of their own and others’ actions in Wales, in the United Kingdom and in the wider world.

 

By developing their personal stances on matters of religious and non-religious world views, ethical challenges and social inclusion, they will become healthy, confident individuals, ready to lead fulfilling lives as valued members of society in Wales and the wider world. Exploring the natural world, locally, across Wales and in the wider world, will help them to develop their well-being and a sense of place.

 

  • Languages, literacy and communication (including Welsh, which should remain compulsory to age 16, and modern foreign languages);

 

Languages, literacy and communication are about developing knowledge, skills and dispositions in oracy, reading, writing and literature within and across languages. They also develop learners’ cultural understanding and identity, their sense of self, and their place and voice in society which can contribute significantly to a thriving economy and cultural life for Wales.

 

Languages, literacy and communication contribute to developing ambitious, capable learners who are effective communicators in Welsh, in English, in other languages and through digital media. Meaningful contexts will stimulate learners to acquire and apply skills, knowledge and understanding, develop positive attitudes to language learning and ultimately become intrinsically motivated to learn and use languages.

 

Learning languages brings different perspectives. Being confident in using languages enables learners to adapt skilfully to different roles and contexts, think creatively, solve problems and take risks, becoming enterprising, creative contributors, both individually and collaboratively.

 

Languages, literacy and communication contribute to developing ethical, informed citizens. Learners gain the knowledge and skills they need to participate confidently and make their voice heard effectively. They will learn how to engage critically with languages and literature across a range of media. Languages and literature develop learners’ sense of identity, helping them to understand their culture and community, and gain a feeling of belonging. Developing skills in languages, literacy and communication can help learners to keep themselves and others safe in the real and virtual world. Healthy, confident individuals can articulate their feelings, interpret those of others, and develop positive relationships.

 

  • Mathematics and numeracy;

Mathematics and Numeracy AoLE promotes Ambitious, capable learners, ready to learn throughout their lives by:

  • Developing a positive attitude towards the subject.
  • Establishing a lifelong interest in mathematics.
  • Encouraging learners to be independent, curious, open-minded, willing to accept mistakes and learn from them in a mathematically purposeful way.
  • Developing metacognition so that learners know which steps to take to improve performance

Mathematics and Numeracy AoLE promotes Enterprising, creative contributors, ready to play a full part in life and work by:

  • Encouraging learners to be creative by taking risks when considering different ways of tackling mathematical and numerical problems.
  • Instilling competency in learners to analyse mathematical situations and construct logical arguments in response

Mathematics and Numeracy AoLE promotes Ethical, informed citizens of Wales and the world by:

  • Creating opportunities to have evidence based discussions and make informed decisions
  • Enabling the critical analysis of data to develop informed views on social, political, economic and environmental matters.
  • Embedding learners’ understanding of personal, local, national and international finance

Mathematics and Numeracy AoLE promotes Healthy, confident individuals, ready to lead fulfilling lives as valued members of society by:

  • Encouraging learners to use their numeracy skills across the curriculum to make effective choices to ensure lifelong health and well-being
  • Instilling the knowledge and skills to manage personal finance and budgeting now and in the future; interpreting information and data to assess risk
  • Science and technology (including computer science).

Through understanding ‘what matters’ about science and technology, learners will develop a secure understanding of the world and become confident, capable and creative.

Science and technology are dynamic.  Ambitious and capable learners understand that knowledge is always subject to challenge from new evidence and technologies, and must reflect changes in scientific and technological understanding.

Science and technology use prediction, testing and questioning.  Learners will understand that if repeatable observations, prototypes or experimental results do not support an idea, they have to be rejected, or modified and tested again.  Learners who are enterprising, creative contributors embrace such challenges.  They take risks, innovate and evaluate, and learn to generate solutions.  They are resilient and purposeful.

Learners who are knowledgeable about science and technology become ethical and informed citizens, able to draw on and evaluate evidence to reach conclusions.  Arguing rationally, morally, consistently and objectively supports their evaluation of evidence.

Learners who will become healthy and confident individuals know how to find information about physical and mental health and well-being.  They are able to use what they know about the impact of nutrition and exercise on their bodies.  Their knowledge and understanding of science and technology help them to live independent and fulfilling lives, and keep themselves and others safe.