Croeso – Welcome

Annwyl Rieni, Gwarcheidwaid a Ffrindiau,

‘ A dawn fe gawn ein geni a’n hawl yw ei meithrin hi’

 

Braint ac anrhydedd yw eich croesawu chi i wefan Ysgol Gymraeg Cwmnedd.

Ein nod yw cynnig ysgol arloesol 3-11 sydd yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg o’r radd flaenaf mewn awyrgylch gynhwysol, gartrefol ac uchelgeisiol.

Credwn mewn paratoi disgyblion trwy ddatblygu eu sgiliau a’u gwerthoedd ar gyfer bywyd tu hwnt i’r ystafell ddosbarth ac i wynebu heriau’r unfed ganrif ar hugain.

Mae ysgol Cwmnedd yn ysgol hapus, bywiog a chroesawgar lle gwelir pawb yn cyd-weithio i ddarparu amrywiaeth o brofiadau ac ystod o gyfleoedd gyda’r nod o osod sylfaen gadarn ar gyfer dyfodol pob plentyn.

Ysbrydolwn ein disgyblion trwy gyflwyno cwricwlwm eang a chyffroes sy’n cael ei gynllunio trwy ddull thematig.

Mae plant yn dysgu orau pan yn teimlo’n hapus ac yn ddiogel felly mae holl staff yr ysgol yn ymroddedig i gefnogi’n disgyblion a’u teuluoedd. Anelwn at sicrhau fod profiadau dysgu’r disgyblion yn berthnasol, cyffroes a phwrpasol a wedi eu seilio ar ddatblygu sgiliau sylfaenol.

Mae pob disgybl yn bwysig fel unigolyn, a phob unigolyn yn bwysig fel aelod o gymuned Ysgol Gymraeg Cwmnedd. Yr egwyddor hon o barchu’r unigolyn a gosod anghenion yr unigolyn yn y canol sydd wrth wraidd ethos, gwerthoedd a llwyddiant ein hysgol.

Mae ein disgyblion yn falch o’u hysgol, yn falch o’u Cymreictod a’u dwyieithrwydd ac yn medru cyfrannu yn gadarnhaol at gymdeithas aml-ieithog, Cymru a’r Byd.

Os ydych yn ystyried danfon eich plentyn i Ysgol Gymraeg Cwmnedd neu os hoffech wybod mwy, cysylltwch â ni.

Yr wyf yn hynod o falch i fod yn Bennaeth ar yr ysgol cyfrwng Cymraeg llwyddiannus ac uchelgeisiol hon, a byddaf wrth fy modd yn eich tywys o gwmpas yr ysgol i chi weld dros eich hun beth allwn gynnig i’ch plentyn.

 

Dymuniadau gorau,
Christine Evans

Pennaeth

 

Dear Parents, Guardians and Friends,

‘We are born gifted and it’s our right to nurture it’

It is an honour and a privilege to welcome you to Ysgol Gymraeg Cwmnedd website.

Our aim is to provide a pioneering 3-11 school which delivers Welsh Medium Education of the highest quality within an inclusive, homely and ambitious environment.

We believe in preparing pupils by developing their skills and values in preparation for life beyond the classroom and in anticipation of facing the challenges of the 21st century.

Ysgol Cwmnedd is a happy, lively and welcoming school where everyone works together to provide a variety of experiences and wide ranging opportunities with the aim of laying firm foundations for every child’s future.

We inspire our pupils through a varied and exciting curriculum taught through a thematic approach.

Children learn effectively when they are happy, safe and secure, therefore all staff are committed to supporting pupils and their families to ensure children are ready and able to learn. We aim to ensure that children’s learning experiences are relevant exciting and purposeful and underpinned by the rigorous development of basic skills.

   Every pupil is regarded as an individual who is an important member of the Ysgol Gymraeg Cwmnedd’s community. This fundamental principle of respecting each individual and placing the individual’s needs at the centre forms the basis of the school’s ethos, values and success.    

We are confident that our pupils are proud of their school, proud of their Welshness and their bilingualism, and are able to contribute to the multi-lingual and multi-cultural community of Cardiff, Wales and the World. 

If you are considering sending your child to Ysgol Gymraeg Cwmnedd or would like to find out more, do get in touch.

I am incredibly proud to be the Headteacher of this successful and ambitious Welsh Medium School, and I would be delighted to show you around for you to see for yourself what we can offer your child.

Best wishes,

Christine Evans

Head Teacher